Faint o gyfleoedd dysgu proffesiynol sydd wedi bod ar gael i staff yn y proffessiwn addysg drwy Addysgwyr Cymru am bob un o'r pum mlynedd diwethaf, ym mhob un o'r sectorau canlynol, a) ysgolion; b) gweithlu ôl-16; ac c) gwaith ieuenctid?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
| Wedi'i ateb ar 24/09/2024
Nid yw Llywodraeth Cymru yn casglu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani. Cyngor y Gweithlu Addysg sy’n gweinyddu Addysgwyr Cymru. Bydd angen i chi gysylltu’n uniongyrchol â Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn gwybod a yw’r wybodaeth hon ar gael.