WQ93912 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Beth yw’r broses o addasu neu ddynodi o’r newydd a) ardaloedd twf cenedlaethol, a b) ardaloedd twf rhanbarthol o fewn Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 18/09/2024

Disgwylir y bydd y cyfnod adolygu nesaf ar gyfer Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol yn dechrau yn 2026, fel rhan o'r cylch adolygu pum mlynedd ar gyfer y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a byddai newidiadau i'r ardaloedd twf cenedlaethol yn cael eu datblygu fel rhan o'r adolygiad hwnnw. Dyfeisiwyd Cymru'r Dyfodol drwy raglen helaeth o ymgysylltu, ymgynghori, asesu, casglu tystiolaeth a chraffu. Byddai unrhyw ddiwygiadau posibl a nodwyd fel rhan o'r broses adolygu yn dilyn yr un rhaglen helaeth ac yn cael eu cefnogi'n llawn gan dystiolaeth briodol.