WQ93911 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

A yw polisi cynllunio cenedlaethol a’r dosbarthiadau defnydd cynllunio newydd C3, C5 a C6 yn grymuso awdurdodau cynllunio, p’un a ydynt wedi penderfynu cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ai peidio, i fabwysiadu polisi cyffredinol yn eu cynlluniau datblygu lleol newydd i olygu bod defnydd pob tŷ newydd yn nosbarth C3?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 18/09/2024

Lle mae tystiolaeth leol gadarn wedi nodi bod nifer yr achosion o ail gartrefi a gosodiadau tymor byr yn effeithio ar gymuned, gall awdurdodau cynllunio ystyried dulliau cynllunio lleol cydlynol. Gall hyn gynnwys nodi safleoedd yn benodol mewn cynlluniau datblygu lleol ar gyfer cartrefi newydd sy'n gyfyngedig o ran eu defnydd i unig neu brif breswylfeydd neu dai marchnad lleol (Dosbarth C3) a/neu gyflwyno cyfarwyddiadau Erthygl 4 penodol i ardal lle gallai fod angen cais cynllunio am newid defnydd unig neu brif breswylfa i ail gartref neu osodiad tymor byr. Ar gyfer yr ardal benodol y mae cyfarwyddyd Erthygl 4 o'r fath yn gymwys iddi, dylid gosod cyfyngiadau yn ôl amod neu rwymedigaeth ar bob cartref newydd sy'n cyfyngu ar eu defnydd i unig neu brif breswylfeydd.

Os oes ganddynt y dystiolaeth briodol, byddai awdurdodau cynllunio lleol yn gallu cyhoeddi cyfarwyddyd gan ddefnyddio Erthygl 4 o'r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir (GPDO) i ddileu'r hawliau datblygu a ganiateir hyn ac efallai y bydd angen ceisiadau cynllunio (lle gall yr awdurdod cynllunio lleol ddangos bod newid defnydd sylweddol wedi digwydd) ar gyfer y newid defnydd penodedig. Ym mhob achos arall, byddai'r GPDO yn caniatáu newidiadau defnydd.