WQ93910 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Ym mha le y gellir dod o hyd i’r data diweddaraf ar berfformiad cymdeithasau tai a amlinellir ar dudalennau 32 a 33 adroddiad ‘Domain Regulation’ Central Consultancy and Training i Lywodraeth Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 20/09/2024

Cafodd yr ymchwil a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad dan sylw ei chynnal yn gynnar yn 2020 a’i chomisiynu fel y cam cyntaf ar gyfer ystyried sut i gysoni’r trefniadau o ran rheoleiddio a sicrhau atebolrwydd y gwasanaethau a ddarperid i denantiaid awdurdodau lleol a chymdeithasau tai. Y bwriad oedd iddi fod yn fan cychwyn i drafod â rhanddeiliaid amrywiol. Cydnabuwyd y byddai angen cryn dipyn rhagor o waith i gloriannu casgliadau’r ymchwil a gwaith i ddatblygu’r polisi ac ymgynghori arno cyn cynnig unrhyw gynigion.

Er ei bod bellach mewn fformat gwahanol, er mwyn helpu tenantiaid i graffu ar berfformiad eu landlordiaid ac i fesur eu hatebolrwydd, parhawyd i gyhoeddi gwybodaeth am berfformiad eu landlordiaid. Er enghraifft, ers 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Arolwg o Foddhad Tenantiaid bob blwyddyn sy’n rhoi gwybodaeth gymharol i denantiaid awdurdodau lleol a chymdeithasau tai. Landlordiaid sy’n darparu’r wybodaeth hon, ar sail eu harolygon eu hunain o 12 o gwestiynau safonol. Cyhoeddir hefyd ddata ar lwyddiant landlordiaid cymdeithasol i fodloni’r Safonau Tai Cymdeithasol. I sicrhau rhagor o welliannau, ers 2022, cyflwynwyd y gofyn i gymdeithasau tai ddarparu gwybodaeth am eu perfformiad i denantiaid yn y Safonau Rheoleiddio. Rhaid i bob cymdeithas fodloni’r safonau hyn.