Pa werthusiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r cynllun cymorth i brynu?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
| Wedi'i ateb ar 17/09/2024
Gwnaeth fy rhagflaenydd gomisiynu ymchwil i anghenion prynwyr cartrefi yn y dyfodol a swyddogaeth Cymorth i Brynu – Cymru, a hynny er mwyn sicrhau bod ein cefnogaeth yn parhau’n berthnasol ac yn cael ei chynnig i’r bobl sydd ei hangen fwyaf. Cafodd yr adroddiad hwn ei gyhoeddi yn ystod yr Haf ac roedd yn cynnwys dadansoddiad o’r cynllun. Rwy’n ymrwymedig i ystyried casgliadau’r adroddiad hwn wrth i mi asesu’n ehangach anghenion darpar brynwyr cartrefi.