WQ93897 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/09/2024

Beth yw amcangyfrif y Llywodraeth o nifer y a) cartrefi gwag a b) adeiladau gwag yng Nghymru sydd â’r potensial i’w haddasu i'w defnyddio fel tai, gan helpu gyfarch targedau’r Llywodraeth o ran darparu tai cymdeithasol ychwanegol yn benodol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 10/09/2024

Mae data ar gartrefi gwag o gofnodion gweinyddol y dreth gyngor yn seiliedig ar anheddau sy’n wag am chwe mis neu ragor (eiddo gwag trethadwy). Mae’r ystadegau diweddaraf ar gyfer 2024-25 ar gael yn: Cartrefi gwag ac ail gartrefi sy’n daladwy, yn ôl blwyddyn (nifer yr anheddau) (llyw.cymru)

Rydym wedi ymrwymo i ddiweddaru Mesur Atebolrwydd Cyhoeddus/013 i fesur i ba raddau y llwyddir i ddefnyddio eiddo gwag, sydd wedi bod yn wag am chwe mis a 12 mis, unwaith eto.

Ni cheir cofnod tebyg o nifer yr adeiladau gwag y gellid eu haddasu i fod yn llety preswyl. Cynlluniwyd ein rhaglen Trawsnewid Trefi er mwyn adfywio canol trefi ac mae’n canolbwyntio’n benodol ar ddefnyddio eiddo gwag yng nghanol trefi unwaith eto. Hyd yma, mae mwy na 3,500 o unedau wedi dechrau cael eu defnyddio eto neu wedi’u gwella o dan y rhaglen hon.