A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad yn rhoi a) manylion aelodaeth, b) rhestr o ddyddiadau y cynhaliwyd cyfarfodydd ac c) trosolwg o’r camau a gymerwyd gan y Grŵp Llywodraethu Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn Penodiadau Cyhoeddus i sicrhau gweithrediad Strategaeth Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru 2020-2023?
Diben y strategaeth oedd cynnal y niferoedd cynyddol o fenywod ar Fyrddau a chynyddu nifer y bobl anabl, pobl sy’n dod o gefndir Du, Asiaidd, ac ethnig leiafrifol, a phobl eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol wrth benodi i Fyrddau. Y nod drwy wneud hyn oedd sicrhau bod Byrddau yn adlewyrchu’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, a gwella’r broses o wneud penderfyniadau felly. Roedd pwyslais cryf ar gyflawni’r ymrwymiadau ar gyfer y rhaglenni hyfforddi a datblygu, a fydd yn cael eu gwerthuso cyn hir.
Er bod trafodaethau cychwynnol wedi’u cynnal ynglŷn â sefydlu Grŵp Llywodraethu Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn Penodiadau Cyhoeddus, yn sgil effaith Covid, ni chafodd y Grŵp ei sefydlu. Yn hytrach, canolbwyntiodd yr ymdrechion cynnar ar gyflawni ymarferol a gweithredol, yn wyneb adnoddau cyfyngedig.
At hynny, roedd cyfraniad yr Uwch-aelodau Annibynnol o'r Panel yn amhrisiadwy. Gwnaethant fanteisio i’r eithaf ar eu harbenigedd a'u profiad wrth symud yr agenda o ran y nodau amrywiaeth a chynhwysiant yn y broses penodiadau cyhoeddus yn ei blaen. Cafodd Uwch-aelodau Annibynnol o’r Panel eu recriwtio o bob rhan o Gymru i ymuno â phaneli recriwtio ar gyfer rhai o’r penodiadau cyhoeddus mwyaf arwyddocaol. Dewiswyd unigolion o bob cefndir ag iddynt bob math o nodweddion gwarchodedig.