WQ93886 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/09/2024

A yw'r ymateb i WQ93758, sy’n nodi nad yw’r Llywodraeth yn casglu data am bobl sy’n gwasanaethu ar fyrddau a chyrff ar hyn o bryd, yn gyson gyda cham gweithredu 1, nod 1 yn Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru ynglŷn â chasglu data am holl aelodau presennol Byrddau Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 10/09/2024

Mae’r ymateb i WQ93758 yn gyson â cham gweithredu 1, nod 1 yn Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru mewn perthynas â chasglu data am holl aelodau presennol Byrddau Cymru. Rydym yn casglu data ar adeg eu penodi. Nid ydym yn casglu rhagor o ddata yn ystod cyfnod eu penodiad.