WQ93845 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/09/2024

Pa gamau mae’r Llywodraeth wedi’u cymryd a pha gynnydd mae’r Llywodraeth wedi’i wneud wrth geisio sicrhau datganoli’r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch i Gymru?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol | Wedi'i ateb ar 10/09/2024

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i adolygu canllawiau a rheoliadau iechyd a diogelwch fel rhan o’i chynllun i wneud i waith dalu. Mae’n flaenoriaeth gennym i weithio gyda Llywodraeth y DU ar yr agenda hon, ac i gyflawni ei Bil Hawliau Cyflogaeth newydd. Bydd y Bil newydd yn cryfhau amddiffyniadau gweithwyr, a bydd yn gwella hawliau undebau llafur a threfniadau gorfodi. Byddaf yn codi cylch gwaith yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a’i adnoddau, wrth imi drafod y materion hyn â Gweinidogion Llywodraeth y DU.