A wnaiff y Comisiwn ymhelaethu ar y cyfeiriad yn nhudalen 16 Cynllun Ieithoedd Swyddogol: Adroddiad Blynyddol 2023-24 Senedd Cymru at newid yn y dull o fonitro data mewn perthynas â phwyllgorau?
Yn ei adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y flwyddyn 2023-24, mae’r Comisiwn yn nodi:
“Mae ein dull o fonitro’r data hwn wedi newid. Bellach rydym yn cofnodi a yw’r dogfennau yn cael eu cyhoeddi yn gydamserol….”
Mae’r frawddeg yn cyfeirio at dabl o wybodaeth ystadegol ynghylch dogfennau a gyhoeddwyd ar wefan y Senedd gan Bwyllgorau’r Senedd yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn ddwyieithog.
Yn ddiweddar, newidiwyd y ffordd y caiff y data ei gofnodi, i sicrhau ein bod yn cofnodi a yw’r dogfennau sydd yn cael eu cyhoeddi yn ddwyieithog yn cael eu cyhoeddi yn gydamserol. Er mwyn galluogi Aelodau i baratoi ar gyfer trafodion yn eu dewis iaith, mae’n bwysig bod dogfennau ar gael yn y ddwy iaith ar yr un pryd. Mae monitro’r data i sicrhau bod y dogfennau yn cael eu cyhoeddi yn unol â gofynion y Cynllun Ieithoedd Swyddogol a dymuniadau aelodau’r pwyllgorau yn ein cynorthwyo i adnabod unrhyw broblemau neu rwystrau.