WQ93828 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/08/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer brechu yn wyneb y straen diweddaraf a’r adroddiadau am ledaeniad MPox?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 04/09/2024

Rydym yn gweithio’n agos gyda gwledydd eraill y DU i ddatblygu ymateb brechu cymesur, wedi'i gydlynu, i'r brigiad o achosion o gytras I o frech M mewn nifer o wledydd yn Affrica. Mewn ymateb i'r brigiad o achosion blaenorol o frech M yn y DU yn 2022, fe wnaethom sefydlu rhaglen frechu lwyddiannus yng Nghymru a oedd yn targedu'r rhai a oedd yn wynebu'r risg fwyaf, a hynny'n gyflym iawn. Mae’r profiad blaenorol hwn yn rhoi sylfaen gadarn i ni gymryd camau pellach, pe bai'r cyngor clinigol a gwyddonol yn awgrymu bod hyn yn angenrheidiol.