WQ93827 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/08/2024

Pa gynlluniau fydd yn cael eu sefydlu o dan adrannau 27 ac 28 o'r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ynghylch annog amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth etholedig, a pha gyllideb fydd ynghlwm â’r cynlluniau hyn?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 30/08/2024

Ymgynghorir a thrafodir â rhanddeiliaid cyn datblygu unrhyw gynlluniau i weithredu adrannau 27 ac 28 o Fil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).

Gan fod yr adrannau hyn yn ymwneud â gwasanaethau i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig a chynlluniau cymorth ariannol i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig, yn y drefn honno, bydd yn hanfodol eu bod yn cael eu datblygu gyda chymorth pobl y bwriedir iddynt eu cefnogi.

Nid yw’r gyllideb wedi’i phennu eto gan fod proses y gyllideb yn mynd rhagddi o hyd.