Ymhellach i WQ93695, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu ffigurau Cam 1 a Cham 2 yr ehangiad ar gyfer Gwynedd wedi’u torri lawr yn ôl ardal gynnyrch ehangach haen?
Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar
| Wedi'i ateb ar 09/09/2024
Nid oes data gofal plant Dechrau'n Deg ar gael ar lefel fanylach na lefel yr Awdurdod Lleol.
Bydd data ar Gam 1 a Cham 2 yn cael eu cynnwys yn natganiad data swyddogol nesaf Dechrau'n Deg, ar ôl cwblhau'r gwiriadau dilysu gofynnol ar gyfer ystadegau swyddogol. Oddi ar fis Ebrill 2023, mae data ehangu Cam 1 wedi cael eu hamsugno i brosesau casglu data craidd Dechrau'n Deg ac, o ganlyniad, ni ellir eu dadgyfuno o ddata craidd Dechrau'n Deg.
Bydd datganiad data swyddogol Dechrau'n Deg yn cael ei ryddhau yn hydref 2024.