A yw'r ffigwr yn Nghynllun Ieithoedd Swyddogol: Adroddiad Blynyddol 2023-24 Senedd Cymru o 34 dogfen a gyhoeddwyd gan bwyllgorau'r Senedd yn Saesneg yn unig yn cynnwys adroddiadau pwyllgor drafft Saesneg yn unig a gaiff eu cynnwys mewn pecynnau Cymraeg papurau pwyllgor yr Aelodau?
Mae’r ystadegau a ddefnyddir yn Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Senedd ar ei Gynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y flwyddyn 2023-24 yn cyfeirio at yr holl ddogfennau a gyhoeddwyd ar wefan y Senedd ac sydd ar gael yn gyhoeddus.
Gan nad yw papurau drafft Pwyllgorau’r Senedd yn cael eu cyhoeddi, nid ydynt yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol. Oherwydd hyn, nid yw’r ffigwr o 34 dogfen a gyhoeddwyd gan Bwyllgorau’r Senedd yn Saesneg yn unig yn cynnwys adroddiadau pwyllgor drafft.
Diben pecynnau papurau Aelodau ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau yw rhoi cyfle i Aelodau drin a thrafod cynnwys cyfarfodydd ac adroddiadau sydd ar y gweill. Maent yn breifat at ddefnydd cyfyngedig Aelodau a’u staff a’r staff sy’n gwasanaethu’r pwyllgorau yn unig.