WQ93824 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/08/2024

Pa ystyriaeth mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i roi i argymhelliad Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd y dylai CBAC gyhoeddi bob blwyddyn faint o ymgeiswyr sydd yn cwblhau papurau arholiad drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer pob pwnc a chyhoeddi’r ffigyrau ar lefel cenedlaethol a sirol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 04/09/2024

Mae CBAC mewn cysylltiad â Chyngor Gwynedd mewn perthynas â'r argymhelliad hwn ac wedi nodi y byddai angen newidiadau i brosesau marcio a pholisïau data i weithredu'r cais. Mae fy swyddogion wedi gofyn i CBAC barhau i drafod gydag awdurdodau lleol i edrych ar opsiynau i helpu Cyngor Gwynedd i ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad y Pwyllgor Craffu Cymunedau.