WQ93821 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

A wnaiff Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar gynnydd yr adolygiad mewn i rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru a chyflwyno trefniadau i wella ysgolion, a phryd y caiff yr adroddiad llawn a’r argymhellion eu cyhoeddi?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 16/09/2024

Daeth yr adolygiad o rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru i ben ym mis Rhagfyr 2023. Cyhoeddwyd llythyr gan yr Athro Dylan Jones, a gynhaliodd yr adolygiad, ym mis Ionawr 2024 ynghyd â Datganiad Ysgrifenedig yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru.

Fel yr amlinellwyd yn y datganiad, mae'r gwaith wedi symud ymlaen i gam pellach i archwilio'r ffordd orau o gefnogi'r gwaith o wella ysgolion ar draws y system. Mae'r gwaith hwn yn parhau gyda'n partneriaid addysg.

Adolygu rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru a chyflwyno trefniadau i wella ysgolion: llythyr at y Gweinidog Addysg

Datganiad ysgrifenedig: Y cam nesaf yn yr adolygiad o wella ysgolion - rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru (31 Ionawr 2024)