WQ93820 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/08/2024

A wnaiff Llywodraeth Cymru ymateb i’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad Recriwtio a Chadw Uwch Arweinwyr Ysgolion yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 03/09/2024

Comisiynwyd Recriwtio a Chadw Uwch Arweinwyr Ysgolion yng Nghymru gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol gyda'r bwriad o ehangu'r sylfaen dystiolaeth ac awgrymu sut y gellid mynd i'r afael â'r heriau o ran recriwtio a chadw uwch arweinwyr ysgolion. Mae'r adroddiad yn darparu cyfres o awgrymiadau polisi i'w hystyried gan nifer o bartneriaid addysg, ac yn benodol awdurdodau lleol fel cyflogwyr uwch arweinwyr ysgolion. Nid lle Llywodraeth Cymru yw ymateb felly.

Mae nifer o'r awgrymiadau polisi eisoes wedi'u nodi mewn adolygiadau eraill a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn fwyaf diweddar yr adolygiad o'r haen ganol yng Nghymru gan Dr Dylan Jones, yr Adolygiad o Wariant Ysgolion yng Nghymru gan Luke Sibieta, yr Adolygiad o Arweinyddiaeth gan yr Athro Alma Harris et al a Dysgu bod yn bennaeth i Gymru gan yr Athro Mick Waters. Bydd awgrymiadau eraill yn cael eu datblygu fel rhan o waith sy'n mynd rhagddo e.e. trafodaethau parhaus ar lwyth gwaith a lles y gweithlu addysg.