WQ93814 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/08/2024

Beth oedd y rhesymeg dros diddymu'r Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon yng Ngorffennaf 2023?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 09/09/2024

Gydag unrhyw waith datblygu a diwygio polisi, mae'n gwbl briodol adolygu grwpiau rhanddeiliaid drwy gydol eu hoes.

Rydym yn parhau i gasglu cyngor a thystiolaeth arbenigol gan randdeiliaid ynghylch recriwtio a chadw athrawon, fel ein gwaith diweddar ar adnewyddu'r meini prawf ar gyfer achredu Rhaglenni AGA yng Nghymru, ein gwaith ymchwil parhaus gyda DARPL ynghylch recriwtio pobl amrywiol, ein gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid yn y sector cyfrwng Cymraeg a'n cyfarfodydd rheolaidd gydag Awdurdodau Lleol.