WQ93779 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/08/2024

Pa ystyriaeth mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i'r alwad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol am gynnal adolygiad o sgiliau'r rhai sy'n gyfrifol am arwain a chynllunio sy'n ymwneud ag asesu risg newid hinsawdd ar asedau diwylliannol mewn cyrff cyhoeddus?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 02/09/2024

Cyn cyhoeddi'r adroddiad hwn, roedd Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Regen i gasglu tystiolaeth ar alluoedd mewnol sefydliadau diwylliannol a chyfraniadau allanol i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r adroddiad yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd a byddwn yn ystyried yr argymhellion ar gyfer cyflawni gyda rhanddeiliaid allweddol yn ystod y misoedd nesaf.  

Mae'r angen i sicrhau gwybodaeth a sgiliau priodol i ymarferwyr yn cael ei gydnabod yn Yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd yng Nghymru: Cynllun Addasu’r Sector (llyw.cymru) a luniwyd gan is-grŵp Newid Hinsawdd Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol.