WQ93778 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/08/2024

Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ystyried y goblygiadau cyllidebol i gyrff cyhoeddus sy’n diogelu asedau diwylliannol a darparu adnoddau i fynd i’r afael yn ddigonol â’r argymhellion a wnaed gan y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn y Papur Gwyn Ddiwylliant a Risg Hinsawdd?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 02/09/2024

Nid wyf wedi cael cyfle eto i ystyried cynnwys a goblygiadau cyllidebol yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn yr Eisteddfod yn gynharach y mis hwn. Fodd bynnag, byddaf yn gwneud hynny yn y man.

Mae dull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael ag effaith newid hinsawdd wedi cael ei gyhoeddi yn Yr Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd yng Nghymru: Cynllun Addasu’r Sector (llyw.cymru).