WQ93775 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/08/2024

Faint o gyrsiau neu gyfleoedd addysgol fydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg i garcharorion sy'n siarad yr iaith a) yn ystâd carchardai Cymru, a b) sydd wedi'u lleoli y tu allan i ystâd carchardai Cymru, fel rhan o strategaeth darparu cyfleoedd dysgu a sgiliau yng ngharchardai’r Llywodraeth?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 03/09/2024

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) i sicrhau bod y ddarpariaeth dysgu a sgiliau yng ngharchardai Cymru yn diwallu anghenion pob dysgwr unigol. Ein nod yw cyflwyno cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg pan fo galw amdanynt, cyflogi athrawon sy'n siarad Cymraeg, a chyfieithu deunyddiau cyrsiau. Mae carcharorion sy'n dymuno datblygu sgiliau Cymraeg yn cael cynnig cyrsiau achrededig, ac rydym hefyd yn cefnogi dysgu drwy opsiynau mwy anffurfiol fel Clybiau Cymraeg a ddarperir gan fentoriaid cymheiriaid sy'n siarad Cymraeg.  O fis Ebrill 2023 tan fis Awst 2024 roedd dros 300 o ddysgwyr yn yr ystad garchardai yng Nghymru wedi dechrau cwrs sgiliau hanfodol yn y Gymraeg.

Yn Lloegr, mae cyrsiau Cymraeg ar-lein ar gael i garcharorion ac mae Cynllun Iaith Gymraeg HMPPS yn ymrwymo’r HMPPS i fynd y tu hwnt i'w rwymedigaethau statudol a darparu gwasanaethau yn y Gymraeg lle bynnag y bo modd.