WQ93762 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/08/2024

Faint o brydau ysgol am ddim ychwanegol sydd wedi’u cyflwyno mor belled ers dechrau gweithredu’r Cynnig Prydau Ysgol am Ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 03/09/2024

Yn ôl y data diweddaraf o fis Mehefin 2024, rydym yn amcangyfrif bod mwy na 26 miliwn o brydau ysgol am ddim ychwanegol wedi'u darparu ers i raglen Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd gael ei rhoi ar waith.