WQ93760 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/08/2024

Faint o wersi Cymraeg am ddim sydd wedi’u darparu bellach fel rhan o’r cynllun ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 02/09/2024

Mae data ar gyfer y cynllun yn cael ei goladu ar lefel y dysgwr ac nid yw’n cynnwys nifer y gwersi. Yn ystod 2023-24, roedd 1,633 o ddysgwyr ifanc wedi elwa o wersi Cymraeg am ddim, gan gynnwys 866 o bobl ifanc a ddilynodd gyrsiau prif ffrwd yn y gymuned.