WQ93759 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/08/2024

A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet ddarparu gwybodaeth ynghylch a) faint o geisiadau penodiadau cyhoeddus ers 2019 oedd gan siaradwyr Cymraeg, fel canran o’r holl geisiadau; a b) faint o’r ceisiadau hynny gan siaradwyr Cymraeg oedd yn llwyddiannus, fel canran o’r holl benodiadau a wnaed?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 29/08/2024

Ar hyn o bryd mae pobl yn gwneud cais am benodiadau cyhoeddus gan ddefnyddio system recriwtio Cais. Rhwng 2019 a 2023 roedd system Penodi ar waith ac nid oedd rhaid darparu gwybodaeth am sgiliau iaith Gymraeg.

Ers 2019, cafodd 41.8% o'r ceisiadau am benodiadau cyhoeddus rheoledig eu gwneud gan bobl a gofnododd sgiliau iaith Gymraeg (ar 22 Awst 2024). O'r ceisiadau hynny, roedd 12.5% yn llwyddiannus. Fel canran o'r holl benodiadau a wnaed, roedd y rhai a gofnododd sgiliau iaith Gymraeg yn 5.2%.