WQ93758 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/08/2024

Beth yw canran y siaradwyr Cymraeg ar gyfartaledd sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd ar y cyrff a’r byrddau y mae Llywodraeth Cymru yn penodi iddynt drwy’r drefn penodiadau cyhoeddus?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 29/08/2024

Nid ydym yn cadw data am bobl sy'n gwasanaethu ar fyrddau a chyrff ar hyn o bryd ond rydym yn casglu data ar adeg eu penodi. Ar 22 Awst 2024, roedd 32.4% o'r bobl a benodwyd ac a ailbenodwyd i benodiadau cyhoeddus rheoledig dros y 12 mis diwethaf wedi nodi bod ganddynt sgiliau iaith Gymraeg.