Pa drafodaethau brys y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cynnal gyda Chyngor Sir Caerffili i atal cau Sefydliad y Glowyr Coed Duon?
Dyrennir cymorth Llywodraeth Cymru i’r celfyddydau gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) sy’n gweithredu fel corff hyd braich i’r Llywodraeth. Mae CCC wedi cadw mewn cysylltiad clos â Sefydliad y Glowyr Coed Duon gan gyfarfod â swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i drafod y mater ar 5 Awst 2024.
Mater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw’r ymgynghoriad cyhoeddus byw ar y cynnig i dynnu cymhorthdal oddi wrth y Sefydliad a’i roi i ‘gadw’. Lansiodd Cyngor Caerffili yr ymgynghoriad ar 30 Gorffennaf 2024 a daw i ben ar 10 Medi 2024.
Mae manylion cyfarfodydd Gweinidogion yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd ar wefan Llywodraeth Cymru ar y ddolen isod: Cyfarfodydd a digwyddiadau gweinidogol | LLYW.CYMRU.