Pa drafodaethau brys y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cynnal gyda Chyngor Sir Caerffili i atal cau Faenor Llancaiach Fawr?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 23/08/2024
Mae rheoli a chyllido Maenordy Llancaiach Fawr yn faterion i’w gorff llywodraethu, sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn yr achos hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod rhaid ystyried opsiynau anodd iawn yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.