A yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiadau canlynol a gyhoeddwyd yn 2019 gan Gyngor y Gweithlu Addysg: a) Cymhariaeth o gymhellion hyfforddi athrawon yng Nghymru a Lloegr; b) Cymhellion Hyfforddiant Athrawon yng Nghymru (Cyd-destun Polisi Rhyngwladol); c) Strategaethau Cymhelliant: Adroddiad Synoptig; a d) Recriwtio Graddedigion: Addysgu a phroffesiynau eraill?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
| Wedi'i ateb ar 16/08/2024
Comisiynwyd yr adroddiadau gan Lywodraeth Cymru ac ystyriwyd y canfyddiadau'n ofalus wrth ddatblygu polisi'n ymwneud â'r gweithlu addysgu bryd hynny, gan gynnwys Cynllun datblygu'r gweithlu 2019 i 2021.
Datblygwyd nifer o'r argymhellion lle’r oedd hynny’n briodol i gyd-destun Cymru, gan gynnwys, ymysg eraill:
- Datblygu a pharhau i gefnogi TAR cyflogedig
- Cynllun Cymhelliant Pynciau â Blaenoriaeth cliriach, â chyfraddau mwy safonol
- Datblygu ymgyrch farchnata Addysgu Cymru a gwefan a gwasanaeth eiriolaeth cysylltiedig Addysgwyr Cymru
- Rhaglen mentora a dysgu proffesiynol wedi’i ariannu ar gyfer athrawon ar ddechrau eu gyrfa sy’n mynd drwy’r broses sefydlu
- Gradd Meistr Genedlaethol mewn Addysg (MA) wedi’i ariannu
- Rhaglen Doethur Addysg (EdD) Genedlaethol (ar gael o fis Ionawr 2025)
- Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol, gan gynnwys 6 diwrnod HMS, a grant dysgu proffesiynol i helpu ysgolion i alluogi ymarferwyr i fanteisio ar ddysgu proffesiynol.
- Adolygiad Strategol IWPRB o Gyflog ac Amodau Athrawon a’n dull gweithredu partneriaeth gymdeithasol gyda rhanddeiliaid
- Ariannu ‘Education Support’ i ddarparu cyngor a chymorth am ddim i ysgolion Cymru.
- Sefydlu’r Grŵp Cydlynu Llwyth Gwaith Strategol sy’n goruchwylio’r holl faterion sy’n ymwneud â lleihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth mewn ysgolion, gan adeiladu ar waith blaenorol yn y maes hwn.