WQ93739 (d) Wedi’i gyflwyno ar 14/08/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am rôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth benderfynu p'un a yw cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru yn perthyn i ddosbarthiad corff cyhoeddus ai peidio, gan gynnwys sail statudol y swyddogaeth hon a'r meini prawf a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth benderfynu ar ddosbarthiad?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet | Wedi'i ateb ar 21/08/2024

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yw cynhyrchydd annibynnol mwyaf y DU o ystadegau swyddogol a sefydliad ystadegol cenedlaethol cydnabyddedig y DU. Mae'n gyfrifol am gasglu a chyhoeddi ystadegau sy'n ymwneud â'r economi, poblogaeth a chymdeithas ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae hefyd yn cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr bob deng mlynedd.

Un o swyddogaethau'r ONS yw dosbarthu sefydliadau i wahanol sectorau economi'r DU (a gweddill y byd), yn unol â safonau a gytunwyd yn rhyngwladol. Mae hyn yn bwysig ar gyfer sicrhau cysondeb a chymharedd ystadegau economaidd ledled y DU ac o'u cymharu â gwledydd eraill.

Mae dosbarthu unedau sefydliadol i sectorau o'r economi a'r trafodiadau rhyngddynt yn llywio'r cyfrifon cenedlaethol – fframwaith ystadegol ar gyfer disgrifio'r hyn sy'n digwydd mewn economïau cenedlaethol – ac ystadegau eraill a gynhyrchwyd gan yr ONS, gan gynnwys ystadegau'r farchnad lafur, ystadegau masnach, ac yn bwysig, diffinio ffin y sector cyhoeddus yn y cyfrifon cenedlaethol i lywio cyllid sector cyhoeddus y DU ac ystadegau diffyg a dyled y llywodraeth.

Mae'r ONS yn sefydliad annibynnol ac mae ei awdurdod i ddosbarthu sefydliadau yn deillio o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, a sefydlodd yr ONS fel adran anweinidogol ac sy'n cael ei goruchwylio gan Awdurdod Ystadegau'r DU, sy'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU. Mae adran 21 o'r Ddeddf yn rhoi'r pŵer i Awdurdod Ystadegau'r DU i "determine, in relation to any body or person, whether or not statistics produced by or in relation to that body or person are official statistics".

Diffinnir ystadegau swyddogol yn y Ddeddf fel ystadegau sy'n cael eu cynhyrchu gan Awdurdod Ystadegau'r DU, un o adrannau'r llywodraeth, gweinyddiaeth ddatganoledig, neu unrhyw berson arall sy'n gweithredu ar ran y Goron. Mae'r Ddeddf hefyd yn nodi bod yn rhaid i ystadegau swyddogol gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, sy'n nodi'r egwyddorion a'r arferion ar gyfer cynhyrchu ystadegau o ansawdd uchel sy'n gwasanaethu budd y cyhoedd.

Pan oedd y DU yn rhan o'r UE a'r System Ystadegol Ewropeaidd, roedd yn ofynnol i'r DU o dan reoliad yr UE gydymffurfio â chanllawiau a nodwyd yn llawlyfr System Cyfrifon Ewrop (ESA) 2010 a'r Llawlyfr ar Ddiffyg a Dyled y Llywodraeth. Mae canllawiau ESA 2010 yn seiliedig ar lawlyfr System Cyfrifon Cenedlaethol 2008 a ddefnyddir gan wledydd y tu allan i'r UE. Ar hyn o bryd mae'r DU yn parhau i ddilyn y set hon o reolau a diffiniadau ar gyfer mesur ac adrodd ar weithgarwch economaidd gwahanol sectorau'r economi, gan gynnwys y sector cyhoeddus.

Mae'r canllawiau'n helaeth ac mae cynhyrchwyr ystadegau cyfrifon cenedlaethol ledled y byd yn dehongli'r llawlyfrau hyn i sicrhau dosbarthiad cywir o unedau sefydliadol a thrafodiadau. Gwneir pob penderfyniad dosbarthu yn seiliedig ar nodweddion a gweithgareddau economaidd yr endid sy'n cael ei ddosbarthu, neu natur y trafodiad rhwng sefydliadau, a ddadansoddir yng nghyd-destun y canllawiau rhyngwladol hyn.

Mae'r ‘Statement of Funding Policy: Funding the Scottish Government, Welsh Government and Northern Ireland Executive’ yn nodi bod cyfrifoldeb am bolisi cyllidol y DU, polisi macro-economaidd a dyraniad cyllid ar draws y DU yn parhau i fod gyda Thrysorlys EF. O ganlyniad, mae cyllid gan Lywodraeth y DU, yn ogystal â hunangyllido’r Llywodraeth Ddatganoledig, yn parhau i gael ei bennu o fewn y fframwaith hwn.

Penderfynir ar gyllid gan Lywodraeth y DU gan gyfeirio at y gofyniad cyffredinol i gyflawni'r amcanion a nodir yn y Siarter Cyfrifoldeb Cyllidebol. Cyflawnir yr amcanion hyn drwy fandad cyllidol Llywodraeth y DU ac maent yn dibynnu ar ddiffiniadau a dosbarthiadau cyfrifon cenedlaethol.

Mae'r Canllawiau Cyllidebu Cyfunol blynyddol a gyhoeddir gan Drysorlys EF yn nodi'r fframwaith cyllidebu ar gyfer rheoli gwariant ar gyfer adrannau Llywodraeth y DU. Mae ei ddarpariaethau hefyd yn berthnasol i'r Llywodraethau Datganoledig, ac eithrio pan fo gweinidogion Trysorlys EF wedi cytuno ar drefniadau pwrpasol.  Mae cymhwyso'r Canllawiau Cyllidebu Cyfunol yn dibynnu ar ddosbarthiad endidau yr ONS ledled y DU.