A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynlluniau i ail agor rheilffordd Bangor-Afon Wen?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 21/08/2024
Nid yw seilwaith rheilffyrdd y tu allan i Linellau Craidd y Cymoedd yng Nghymru wedi'i ddatganoli, ac mae Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn gyfrifol am ariannu a chyflawni. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal astudiaeth Cam 1 WelTAG i opsiynau i wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru, gan gynnwys sut i ddiogelu coridorau teithio posibl ar hyd arfordir gorllewinol Cymru o Abertawe i Fangor. Fel rhan o'r gwaith hwn, maent yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol ar y llwybr rhwng Bangor ac Afon Wen, a fydd yn nodi'r aliniad gorau ar gyfer cysylltiad a chyfyngiadau cyfredol.