Pa fesurau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i fesur effeithiolrwydd ei cynlluniau a) cymhellion addysg gychwynnol athrawon; b) cymhellion hyfforddi athrawon: myfyrwyr TAR (AB); ac c) y fwrsariaeth i gadw athrawon Cymraeg mewn addysg?
Rydym yn gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i edrych ar gyfraddau cadw athrawon a dderbyniodd daliad cymhelliant (yn benodol y cynllun Cymhelliant Pynciau â Blaenoriaeth) yn y tymor hwy. Rydym hefyd yn defnyddio data ac adborth o'r Partneriaethau AGA ochr yn ochr â data yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch a'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion ac unrhyw waith ymchwil perthnasol i fonitro'r cynlluniau cymhelliant yn flynyddol. Lansiwyd y Fwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg fel cynllun peilot yn 2023 a bydd ar gael yn y lle cyntaf am 5 mlynedd. Byddwn yn parhau i ddilyn hynt y rhai a gafodd y fwrsariaeth gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn flynyddol yn ystod y cyfnod peilot i weld a ydynt yn dal i addysgu. Byddwn hefyd yn comisiynu gwerthusiad annibynnol yn 2026 unwaith y bydd gennym ddigon o ddata i benderfynu a yw'r fwrsariaeth yn cyflawni ei hamcan o gadw athrawon uwchradd Cymraeg a chyfrwng Cymraeg yn y proffesiwn.
Rydym hefyd yn y broses o ystyried canfyddiadau'r adroddiad adolygu a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023 ar weledigaeth newydd ar gyfer addysg gychwynnol athrawon yn y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. I gefnogi'r gwaith hwnnw bydd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Medr, yn adolygu ac yn monitro effeithiolrwydd y rhaglen gymhelliant gyfredol ar gyfer TAR AB cyn gwasanaethu i sicrhau ei bod yn cyflawni ein hamcanion polisi ni a Medr.