Pa fesurau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i fesur effeithiolrwydd Bwrsariaeth y GIG yng Nghymru?
I fanteisio ar y fwrsariaeth mae angen i fyfyrwyr gofal iechyd ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, naill ai mewn lleoliad gofal iechyd neu leoliad gofal cymdeithasol.
Mae’r tabl isod yn rhoi crynodeb o nifer y myfyrwyr a gafodd eu cyllido drwy fwrsariaeth a chael swydd yng Nghymru ar ddiwedd y cylch recriwtio ym mis Rhagfyr 2023. Dyma’r data diweddaraf sydd ar gael.
| 
 Maes astudio  | 
 Nifer graddedigion 2023 a gafodd fwrsariaeth  | 
 Nifer oedd ar gael i weithio yng Nghymru  | 
 % y rhai oedd ar gael i weithio a gafodd eu recriwtio  | 
 Nifer wedi’u cadarnhau mewn gwaith yng Nghymru (ar 7/12/2023) 
  | 
| 
 Cyrsiau proffesiynau perthynol i iechyd  | 
 310  | 
 288  | 
 80%  | 
 231  | 
| 
 Cyrsiau gwyddor gofal iechyd  | 
 184  | 
 160  | 
 86%  | 
 137  | 
| 
 Cyrsiau nyrsio  | 
 962  | 
 869  | 
 91%  | 
 793  | 
Mae swyddogion yn trafod effaith bwrsariaeth y GIG â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys myfyrwyr, yn rheolaidd. Bwriadwn ymgynghori ar ddyfodol bwrsariaeth y GIG er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn addas i’r diben.