A wnaiff Llywodraeth Cymru gadarnhau beth yw ei pholisi o ran cyflwyno gofynion ar landlordiaid i sicrhau bod eu heiddo yn cyrraedd sgor tystysgrif perfformiad ynni (EPC) o C neu fwy erbyn 2030, yn dilyn datganiadau diweddar gan Ysgrifennydd Diogelwch Ynni a Sero Net Llywodraeth Prydain?
Mae’r gallu i gyflwyno gofynion ar landlordiaid i sicrhau bod eu heiddo yn cyrraedd sgôr tystysgrif perfformiad ynni (EPC) o C neu fwy erbyn 2030 yn bŵer wrth gefn ac felly bydd unrhyw newidiadau yr ymrwymir iddynt gan Lywodraeth y DU hefyd yn gymwys i Gymru.
Rydym yn gefnogol o gynyddu gofynion EPC ar gyfer y sector rhentu preifat a chryfhau’r safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni (MEES). Roeddem yn siomedig pan ostyngwyd uchelgeisiau newid hinsawdd Llywodraeth flaenorol y DU a phan newidiwyd eu safbwynt o ran y cynnig yn 2023 ac rydym yn croesawu trafodaethau â Llywodraeth newydd y DU ar y pwnc.
Byddai cynyddu safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni ar gyfer cartrefi rhent preifat yn arwain at gartrefi iachach o ansawdd gwell i denantiaid Cymru, ac at leihad o ran costau biliau ynni. Mae hyn yn hanfodol i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau i helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd ac i wella canlyniadau lles.
Bydd codi safonau tystysgrifau perfformiad ynni tai rhent preifat i sgôr o C neu fwy o gymorth i ddatgarboneiddio cartrefi Cymru, sydd yn elfen hanfodol o ran bodloni ein targedau o gyrraedd sero net erbyn 2050.