WQ93697 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/08/2024

Erbyn pryd y mae’r Comisiwn yn rhagweld y bydd modd i Aelodau a staff ragosod hafan system y Swyddfa Gyflwyno ar gyfer cyflwyno busnes seneddol i’r Gymraeg?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 25/09/2024

Yn ddiweddar, mae'r Comisiwn wedi cymryd cyfrifoldeb am ddatblygiad technegol system y Swyddfa Gyflwyno gan werthwr allanol. Ar hyn o bryd, rydym yn trosglwyddo perchnogaeth, ac mae’n datblygwyr yn sefydlu’r seilwaith sy’n ofynnol ar gyfer hwyluso gwelliannau mewnol yn y dyfodol. Bydd hyn yn galluogi Comisiwn y Senedd i gyflwyno a rhyddhau diweddariadau yn fwy effeithlon.

Er y gall defnyddwyr ddewis eu dewis iaith wrth fewngofnodi i'r Swyddfa Gyflwyno, nid yw'r system hyd yma yn cadw dewis iaith defnyddiwr ar draws gwahanol sesiynau. Mae cynnwys nodwedd i gofio dewis iaith y defnyddiwr yn rhan o'r gwelliannau a drefnwyd gennym ar gyfer y system, ynghyd ag uwchraddiadau eraill a awgrymwyd gan ddefnyddwyr y Swyddfa Gyflwyno.

Er mwyn lleihau’r risg i barhad busnes y Senedd, caiff newidiadau eu rhyddhau yn ystod cyfnodau toriad pan fo llai o ddefnydd o’r system. Rydym yn rhagweld y bydd y newid hwn yn cael ei gynnwys mewn datganiad cyn diwedd y flwyddyn galendr hon.