WQ93695 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/08/2024

Faint o leoedd gofal plant am ddim newydd i blant dyflwydd oed sydd wedi’u creu fesul cymuned neu ddarparwr yng Ngwynedd fel rhan o’r ehangiad Dechrau’n Deg hyd yma?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar | Wedi'i ateb ar 15/08/2024

Rydym yn gwneud cynnydd gwych yn ymestyn cymhwystra gofal plant Dechrau’n Deg trwy gyflwyno gofal plant o ansawdd uchel i blant dyflwydd oed ledled Cymru.

Dechreuodd Cam 1 y rhaglen ehangu ym mis Medi 2022 ac mae wedi cael ei gwblhau, ar ôl cyflwyno pob un o bedair elfen y rhaglen i 3,178 o blant ychwanegol sy’n 0-4 oed. Roedd hyn yn cynnwys 772 o blant ychwanegol ar draws Cymru sydd wedi cael cynnig lle gofal plant Dechrau’n Deg. Roedd 16 o’r cynigion hyn am leoedd gofal plant ychwanegol yn ystod Cam 1 wedi cael eu gwneud yng Ngwynedd.

Dechreuodd Cam 2 y gwaith ehangu ym mis Mawrth 2023. Mae data dangosol a ddarparwyd gan awdurdodau lleol yn awgrymu bod 6,907 o blant ychwanegol ar draws Cymru wedi cael cynnig gofal plant Dechrau’n Deg fel rhan o Gam 2 y gwaith ehangu yn 2023-24. Gwnaed 89 o’r cynigion am leoedd gofal plant ychwanegol yn ystod Cam 2 yng Ngwynedd yn 2023-24.