Beth yw'r amserlen ddiweddaraf ar gyfer cwblhau gwaith atgyweirio yn Noc Fictoria, Caernarfon fel rhan o’r rhaglen diogelwch adeiladau?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
| Wedi'i ateb ar 16/08/2024
Mae datblygwr Doc Fictoria, Caernarfon (Watkin Jones) yn y broses o lofnodi contract cyfreithiol rhwymol Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau eu hymrwymiad i gyweirio materion diogelwch tân y maent yn gyfrifol amdanynt. Rydym yn disgwyl i'r broses hon ddod i ben yn ystod yr wythnosau nesaf.
Unwaith y bydd y contract wedi'i lofnodi, bydd yn ofynnol i Watkin Jones lunio adroddiadau cynnydd chwarterol i Weinidogion Cymru, gan gynnwys amserlenni, cynnydd, ac unrhyw rwystrau o ran cwblhau gwaith.