WQ93693 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/08/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o a) faint o'u hincwm mae pobl Cymru yn eu gwario mewn archfarchnadoedd bob mis; a b) o elw archfarchnadoedd yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 16/08/2024

Arweiniodd yr argyfwng costau byw a chamdrafod cyllideb y DU at bwysau chwyddiant parhaus sydd wedi effeithio ar faint sy'n cael ei wario bob mis mewn archfarchnadoedd.  Mae'r gyfradd chwyddiant wedi gostwng ers ei lefel uchaf yn 2023 er bod prisiau'n parhau i godi, ond ar gyfradd arafach.

Nid yw sector manwerthu Cymru ar wahân i sector y DU, ac nid ydym yn cadw golwg ar elw manwerthu yn benodol i Gymru. Mae cymhlethdod ychwanegol nad oes gan fanwerthu ffiniau caled gyda llawer o ddefnyddwyr Cymru yn siopa ar-lein ac mewn siopau sydd y tu allan i Gymru. 

Cyhoeddodd y CMA adroddiad ym mis Gorffennaf yn monitro'r Gystadleuaeth a'r proffidioldeb yn y sector nwyddau groser sy'n adrodd bod chwyddiant prisiau bwyd cyfanredol wedi gostwng yn gyson, o uchafbwynt o 19.1% ym mis Mawrth 2023 i 1.5% ym mis Mehefin 2024 a bod cystadleuaeth effeithiol yn sicrhau pwysau parhaus ar fanwerthwyr i drosglwyddo arbedion cost i'w cwsmeriaid. Fodd bynnag, maent yn cydnabod bod cost nwyddau groser wedi cynyddu ac yn debygol o barhau i gynyddu.