WQ93671 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/08/2024

Pa wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dal am nifer y rhai sy'n derbyn Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon Iaith Athrawon Yfory sydd a) wedi ymgeisio; b) wedi aros yn y proffesiwn addysgu yng Nghymru; ac c) yn dysgu Cymraeg neu trwy gyfrwng y Gymraeg ers cychwyn y cynllun yn 2018?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 19/08/2024

Ers dechrau’r cynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory mae 540 (wedi'i dalgrynnu i'r 5 agosaf) o bobl gymwys wedi hawlio'r taliad cymhelliant cyntaf wrth gael SAC. Ar 8 Awst, roedd 315 o athrawon cymwys (wedi'i dalgrynnu i'r 5 agosaf) wedi hawlio'r ail daliad ar ôl cwblhau'r cyfnod sefydlu. I fod yn gymwys ar gyfer yr ail daliad, rhaid cwblhau'r cyfnod sefydlu mewn lleoliad uwchradd a gynhelir, gan addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu addysgu'r Gymraeg fel pwnc.

Mae fy swyddogion yn y broses o gytuno ar gytundeb rhannu data gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn edrych ar athrawon a gafodd daliadau Cymhelliant Pynciau â Blaenoriaeth a dadansoddi'r cyfraddau cadw. Os bydd y darn hwn o waith yn llwyddiannus, bydd fy swyddogion yn ystyried cynnal dadansoddiad tebyg ar y cynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory, gan ddadansoddi cyfraddau cadw y tu hwnt i'r cyfnod sefydlu. Fodd bynnag, ar hyn o bryd dim ond un cynllun, sef carfan blwyddyn academaidd (2018/19), sydd wedi cau ar gyfer hawlwyr ac y gellir felly ei ystyried yn derfynol o ran data. Er mwyn sicrhau canfyddiadau cadarn, rhaid defnyddio mwy nag un set o ddata terfynol.