WQ93659 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/08/2024

A wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r holl argymhellion a ddarperir i’r Llywodraeth gan y Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon ers ei sefydlu ym mis Ionawr 2018, ac ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y bwrdd?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 13/08/2024

Cafodd y Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon ei ddiddymu ym mis Gorffennaf 2023. Nid oes unrhyw Weinidog nac Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â'r bwrdd ers ei sefydlu.

Nid bwrdd cyhoeddus oedd y bwrdd. Roedd yn rhoi cyngor a her i gefnog’r gwaith o lunio a gweithredu polisïau mewn perthynas â recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru. Ac ni chafodd cofnodion ac argymhellion y bwrdd eu cyhoeddi, er mwyn sicrhau amgylchedd lle gallai polisïau gael eu profi a'u herio'n agored gan ymarferwyr ac arbenigwyr annibynnol.