Sawl gwaith y mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cwrdd â'r Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon ers ei sefydlu ym mis Ionawr 2018?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
| Wedi'i ateb ar 13/08/2024
Cafodd y Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon ei ddiddymu ym mis Gorffennaf 2023. Nid oes unrhyw Weinidog nac Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â'r bwrdd ers ei sefydlu.
Nid bwrdd cyhoeddus oedd y bwrdd. Roedd yn rhoi cyngor a her i gefnog’r gwaith o lunio a gweithredu polisïau mewn perthynas â recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru. Ac ni chafodd cofnodion ac argymhellion y bwrdd eu cyhoeddi, er mwyn sicrhau amgylchedd lle gallai polisïau gael eu profi a'u herio'n agored gan ymarferwyr ac arbenigwyr annibynnol.