A yw'r Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon yn parhau i gyfarfod a darparu cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru, ac os felly, sawl gwaith y mae'r bwrdd wedi cyfarfod ers mis Ionawr 2018, ac ar ba ddyddiadau?
Cafodd y Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon ei ddiddymu ym mis Gorffennaf 2023. Nid oes unrhyw Weinidog nac Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â'r bwrdd ers ei sefydlu.
Nid bwrdd cyhoeddus oedd y bwrdd. Roedd yn rhoi cyngor a her i gefnog’r gwaith o lunio a gweithredu polisïau mewn perthynas â recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru. Ac ni chafodd cofnodion ac argymhellion y bwrdd eu cyhoeddi, er mwyn sicrhau amgylchedd lle gallai polisïau gael eu profi a'u herio'n agored gan ymarferwyr ac arbenigwyr annibynnol.