WQ93641 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/07/2024

Pa gynlluniau cyfredol sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i gefnogi dadgarboneiddio tai, a faint yw gwerth ariannol y cynlluniau hyn?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 06/08/2024

Mae gennym nifer o gynlluniau datgarboneiddio preswyl sy'n cwmpasu pob deiliadaeth tai yng Nghymru. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i hyrwyddo cynlluniau sy'n cwmpasu Cymru fel y Cynllun Uwchraddio Boeleri.

Cefnogir landlordiaid cymdeithasol drwy'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP), sef rhaglen profi a dysgu sy’n anelu at ddatblygu gallu a sylfaen wybodaeth am ddatgarboneiddio yng Nghymru. Nod y rhaglen hon yw datblygu ein dealltwriaeth o sut i ymgymryd ag ôl-osod mewn modd effeithiol a chost effeithlon, datblygu cadwyni cyflenwi lleol a chreu cyfleoedd gwaith ledled Cymru. Ers 2020, mae'r rhaglen wedi ymrwymo tua £290 miliwn i ddatgarboneiddio a bydd yn arwain at gwblhau gwaith ôl-osod mewn 27,000 o gartrefi.

Mae buddsoddiad y Rhaglen Ôl-osod yn cyd-fynd â chyllid y Lwfans Atgyweiriadau Mawr a chyllid bwlch Dowry (ar gyfer awdurdodau lleol a throsglwyddiadau gwirfoddol ar raddfa fawr) o £108 miliwn y flwyddyn. Gellir cyfuno'r cronfeydd cyllid hyn â chyllid arall ar gyfer tai cymdeithasol megis y Cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni ac maent yno i gefnogi landlordiaid cymdeithasol i gyflawni eu hymrwymiadau o dan Safon Tai Ansawdd Cymru 2023.

Mae cynllun Nyth Cartrefi Cynnes yn cefnogi aelwydydd incwm isel sy'n berchen ar eu cartrefi neu'n byw mewn llety rhent preifat, gyda £30 miliwn wedi'i ymrwymo yn y flwyddyn ariannol hon. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar effeithlonrwydd ynni ac atebion gwresogi carbon isel er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r ddau amcan o dlodi tanwydd a lleihau allyriadau. Gall y sector rhentu preifat hefyd gael gafael ar gyllid drwy Gynllun Prydlesu Cymru gyda £1.3m wedi'i ymrwymo i gefnogi datgarboneiddio drwy'r rhaglen hon yn y flwyddyn ariannol 24/25.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i ddatblygu cynnyrch cyllid i berchnogion tai fel y gallant gael mynediad at gyllid cost isel i ymgymryd â gwaith datgarboneiddio. Ein bwriad yw lansio cynllun peilot o'r cynllun hwn yn ddiweddarach eleni.

Gall unrhyw un yng Nghymru gael cyngor am y cyllid sydd ar gael a'r meini prawf cymhwystra drwy ffonio llinell gymorth Nyth sydd ar gael am ddim.