Faint o ddefnyddwyr sydd gan a) mewnrwyd Aelodau a staff cymorth; a b) mewnrwyd staff y Comisiwn, ac o’r defnyddwyr rheiny faint ohonynt sydd â mewnrwyd wedi’i rhagosod i’r Gymraeg?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd
| Wedi'i ateb ar 25/09/2024
Mewnrwyd yr Aelodau a Staff Cymorth yr Aelodau:
Mae 346 o ddefnyddwyr ac mae 15 ohonynt wedi rhagosod y fewnrwyd yn ddiofyn i'r Gymraeg yn seiliedig ar fynediad ac aseiniad drwy bolisi grŵp TGCh.
Mewnrwyd Staff y Comisiwn:
Mae 528 o ddefnyddwyr ac mae 60 ohonynt wedi rhagosod y fewnrwyd yn ddiofyn i'r Gymraeg yn seiliedig ar fynediad ac aseiniad drwy bolisi grŵp TGCh.