WQ93629 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/07/2024

Ymhellach i WQ93107 a'r ymrwymiadau dilynol a roddwyd yn y datganiad busnes yn y cyfarfod llawn ar 16 Gorffennaf 2024, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau ym mha le y gellir dod o hyd i fanylion llawn, aelodaeth a chylch gorchwyl y comisiwn asedau cymunedol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 02/08/2024

Bu oedi o ran cwblhau cylch gorchwyl y comisiwn asedau cymunedol a'r rhaglen waith gysylltiedig. Mae'r manylion yn cael eu cadarnhau ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cynnwys mewn datganiad ar ôl toriad yr haf, ynghyd â rhestr aelodaeth lawn.