WQ93628 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio pam nad yw a) cymdeithasau tai; a b) sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yn ddarostyngedig i Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 a chadarnhau pa ystyriaeth sydd wedi'i roi i gynnwys y cyrff hyn dan y ddeddf?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 07/08/2024

Mae’r cyrff cyhoeddus a restrir yn adran 6(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”) yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd datblygu cynaliadwy a llesiant.  Mae’r ddyletswydd hon yn ei gwneud hi’n ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal gwaith datblygu cynaliadwy, sef y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, trwy weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy er mwyn gwireddu’r amcanion llesiant a ddisgrifir yn y Ddeddf. Cafodd y cyrff cyhoeddus a restrir yn adran 6(1) y Ddeddf eu dewis ar sail pedwar maen prawf:

  • Daw mwy na 50% o gyllid y corff o goffrau cyhoeddus.
  • Mae swyddogaethau neu weithgareddau’r corff yn effeithio ar lesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru neu ei ardal.
  • Mae gan y corff swyddogaethau strategol.
  • Mae gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yr awdurdod i archwilio’r corff.

 

Defnyddiwyd y meini prawf hyn i ddewis y cyrff cyhoeddus yn y Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) gwreiddiol yn ogystal ag yn yr adolygiad diweddar o gyrff cyhoeddus a arweiniodd at lunio Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024. Cyhoeddir y meini prawf yn eu priod femoranda esboniadol.

Nid yw cymdeithasau tai, neu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig fel y’u gelwir, wedi’u rhestru yn adran 6(1) y Ddeddf gan nad ydyn nhw’n bodloni’r meini prawf a ddisgrifir uchod. Nid yw sefydliadau addysg uwch a cholegau addysg bellach ar y rhestr adran 6(1) y Ddeddf chwaith gan eu bod yn sefydliadau di-elw sy’n gwasanaethu aelwydydd heb eu rheoli gan y llywodraeth ac am nad ydyn nhw’n gyrff sy’n cael eu harchwilio. Ond mae’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr fel y’i gelwir) sy’n gyfrifol am gyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg ac ymchwil drydyddol yng Nghymru, ar restr adran 6(1) y Ddeddf ac felly yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd datblygu cynaliadwy a llesiant. Hefyd, o dan adran 10 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, rhaid i Medr hybu cyflawni cenhadaeth ddinesig, sy’n golygu cymryd camau i hyrwyddo neu wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru (gan gynnwys cymryd camau i wireddu unrhyw rai o’r amcanion llesiant yn adran 4 y Ddeddf).

At hynny, mae cynrychiolwyr y sector addysg drydyddol yng Nghymru’n cyfrannu’n rheolaidd at Fforwm Rhanddeiliaid Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n goruchwylio’r modd y rhoddir y Ddeddf ar waith ac yn rhoi cyngor ar hynny. Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (“Deddf SPPP”) wedi’i chreu i ategu ac adeiladu ar y pum ffordd o weithio sy’n rhan o’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn y Ddeddf trwy gyflwyno’r egwyddor o bartneriaeth gymdeithasol fel ffordd y dylai cyrff cyhoeddus weithio. Mae Rhan 2 o Ddeddf SPPP yn rhoi dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar y cyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd datblygu cynaliadwy a llesiant (h.y y cyrff a restrir yn adran 6(1) y Ddeddf). Felly, nid yw cymdeithasau tai na sefydliadau addysg uwch a cholegau addysg bellach yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol.