A yw'r Comisiwn yn gofyn am sicrwydd bod opsiynau cig amgen, nad ydyn yn halal, ar gael pan fydd opsiynau cig halal ar gael yn ystafell de y Senedd neu yn ystafell de'r Aelodau?
Mae gwasanaeth arlwyo’r Senedd yn ymdrechu i ddiwallu ystod o anghenion deietegol a diwylliannol yn y gwasanaeth arlwyo i gefnogi ein hymrwymiad i greu gweithle amrywiol a chynhwysol. Mae’r holl brydau ar y fwydlen sy’n cynnwys cig yng nghantîn y Senedd ac ym mharlwr te’r Aelodau yn defnyddio cynnyrch anhalal ar bob adeg. Os ceir cais gan gwsmeriaid, mae opsiynau halal bob amser ar gael a byddant yn cael eu coginio yn ôl yr archeb er mwyn lleihau gwatraff bwyd. Mae eitemau bwyd halal megis brechdanau wedi’u labelu’n glir gyda’r arwyddion a’r brandio perthnasol.