Pa gyfran o opsiynau cig yn ffreutur y Senedd ac ystafell de'r Aelodau sy'n rhai halal?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd
| Wedi'i ateb ar 20/08/2024
Mae’r holl fwyd a gynigir yn ein cownter o ddydd i ddydd yng nghantîn y Senedd ac ym mharlwr te’r Aelodau yn cael eu gwneud drwy ddefnyddio cynnyrch anhalal. Mae opsiynau halal yn cael eu coginio yn ôl yr archeb ar gais yn unig. Gan fod lefelau stoc yn newid yn barhaus, nid yw’n bosibl darparu cyfran fanwl gywir fel y gofynnwyd amdani, ond, am y rheswm a roddwyd, bydd lefelau cynnyrch halal o’u cymharu â'r lefelau cynnyrch anhalal cyffredinol bob amser yn fach iawn.