WQ93619 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/07/2024

A yw Comisiwn y Senedd yn gofyn am opsiynau bwyd halal ar gyfer ffreutur y Senedd neu ystafell de'r Aelodau?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 20/08/2024

Nod gwasanaeth arlwyo’r Senedd yw gwasanaethu ystod eang o ofynion deietegol i ddiwallu anghenion yr holl Aelodau a phawb arall sy’n defnyddio’r gwasanaethau ar ein hystad.  Os gwneir cais, mae opsiynau halal ar gael a byddant yn cael eu coginio yn ôl yr archeb.  Mae eitemau bwyd halal megis brechdanau wedi’u labelu’n glir gyda’r arwyddion a’r brandio perthnasol.