WQ93603 (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/07/2024

Am ba hyd y mae llyfrgell y Senedd heb fod wedi darparu copi o bapur newydd the Sun, a pham hynny?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 20/08/2024

Mae Llyfrgell y Senedd yn darparu mynediad at ystod eang o bapurau newydd rhanbarthol Cymreig a rhai cenedlaethol y DU, mewn fersiynau print ac ar-lein.

Canslodd y Llyfrgell danysgrifiadau print i nifer fawr o bapurau newydd cenedlaethol a rhanbarthol yn ystod y pandemig er mwyn osgoi gwastraff a lleihau costau.  Roedd hyn yn cynnwys papur newydd y Sun a gafodd ei ganslo ym mis Chwefror 2021.