Ymhellach i'r ymrwymiad a roddwyd ym mharagraff 153 cofnod y Cyfarfod Llawn ar 17 Gorffennaf 2024, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu'r ystadegau a'r data dan sylw?
Daeth y ffigur y cyfeiriwyd ato gennych o'r Arolwg Bwyd y Sector Cyhoeddus diweddaraf i Gymru, a gynhaliwyd yn 2022. Nid yw'r un arolwg wedi'i ailgynnal eto, felly nid oes gennym gymharydd uniongyrchol eto. Fodd bynnag, rydym yn bwriadu cynnal yr arolwg unwaith eto ar ddiwedd tymor y Senedd hon i fesur effeithiau ein prosiectau Economi Sylfaenol, meithrin cadwyni cyflenwi lleol a chynyddu'r cyflenwad o fwyd Cymreig i'r sector cyhoeddus.
Mae datblygu a gwella ein cadwyni cyflenwi bwyd lleol yn rhaglen newid hirdymor wrth gwrs, ond mae’r prosiectau hyn eisoes yn cyflawni cynnydd.
Er enghraifft, mae'r adnodd ar-lein 'Prynu Bwyd Addas at y Dyfodol' wedi cefnogi cynnydd o 173% yn y bwyd o Gymru a gyflenwir ar gyfer prydau ysgol drwy Gastell Howell (£854k yn 2021 o'i gymharu â £2.3m ar hyn o bryd).
Mae hyn wedi deillio’n bennaf o waith gan Gyngor Caerffili, wrth iddynt gymhwyso'r canllawiau caffael bwyd 'Prynu Bwyd Addas at y Dyfodol' i Fframwaith Bwyd De Cymru, a ddyfarnwyd ym mis Ebrill ac a ddefnyddir gan 15 o awdurdodau lleol. Mae'r fframwaith yn cynnwys lot ar gyfer Cymru am y tro cyntaf, gan ddarparu dewisiadau bwyd lleol i gynghorau. O blith 150 lot, enillodd Castell Howell 100, gan sicrhau diogelwch o ran y cyflenwad a chadw arian yng Nghymru. Ers lansio'r adnodd hwn, mae Castell Howell hefyd wedi nodi cynnydd o 86% mewn bwyd Cymreig a gyflenwir i GIG Cymru (£598k i £1.1m).
Yn ogystal, mae ein prosiect ‘Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru’ gan Synnwyr Bwyd Cymru, wedi datblygu 8 tyfwr newydd i gynyddu'r cyflenwad o gynnyrch Cymreig i ysgolion. O ganlyniad, maent yn cyflenwi tua 40 tunnell o lysiau organig i ysgolion ar draws 6 awdurdod lleol. Maent hefyd wedi tyfu erw newydd sbon o foron (10 tunnell) i ysgolion er mwyn mynd i'r afael â’r prinder diweddar o ran cyflenwad, a arweiniodd at eu mewnforio o Tsieina.
Bydd y prosiectau hyn yn dod i ben erbyn mis Mawrth 2025, a bydd gwerthusiad llawn yn cael ei gynnal bryd hynny. Dylai canlyniadau hyn gael eu cyhoeddi erbyn haf 2025.